Gwneud Cais - Unigolyn
Mae mynd ar gwrs, cynhadledd neu farchnad cyfryngau yn gallu bod yn ddrud ac, o ganlyniad, yn golygu bod rhai yn colli allan ar y cyfle i feithrin sgiliau newydd a chysylltiadau defnyddiol.
Os wyt ti wedi dod o hyd i gyfle gwych i dy helpu i ddatblygu dy yrfa, neu falle dy fod angen cymorth ariannol i fynd ar gwrs neu gyfnod o brofiad gwaith, falle gallwn ni dy helpu.
Gwneud Cais
Gei di wneud cais os wyt ti’n ateb un o’r gofynion yma:
- Yn byw yng Nghymru am o leiaf ddwy flynedd cyn gwneud cais
- Wedi geni yng Nghymru
- Yn siarad Cymraeg
I wneud cais, defnyddia’r ffurflen ar-lein neu gei di ei lawrlwytho a’i ebostio .
Mae ‘na fwy o wybodaeth am beth allwn - a beth na allwn - ei gefnogi ar y dudalen cwestiynau.
Ffurflen Gais Arlein
Bydd angen i ti lanlwytho eich CV a llenwi'r ffurflen isod
Cais am Gymorth Ariannol
Pa bryd mae’r dyddiadau cau?
Byddwn ni - yr ymddiriedolwyr - yn cyfarfod ar ôl pob dyddiad cau i drafod ceisiadau.
- Mawrth 1
- Gorffennaf 1
- Tachwedd 1
Rydym yn cyfarfod ar ôl pob dyddiad cau i drafod ceisiadau.
Os oes gen ti gais brys, cysyllta gyda ni. Falle byddwn ni’n gallu ei drafod rhwng y dyddiadau yma.