Cwestiynau Cyffredin

Pwy mae Ymddiried yn cefnogi?

  • Unigolion sydd eisiau ehangu eu sgiliau mewn teledu, ffilm, radio a chyfryngau newydd.
  • Mudiadau sy’n helpu datblygu sgiliau unigolion.
  • Mudiadau sy’n creu cyfleoedd addysgiadol i bobl sydd eisiau gyrfa yn y cyfryngau.
  • Mentrau cymunedol.

 

Pa fath o bethau ry’n ni’n yn hapus i’w cefnogi?

  • Cyrsiau hyfforddi i ddatblygu sgiliau teledu, ffilm, digidol a sain. 
  • Gall ‘rhain fod yn gyrsiau byr iawn, rhan-amser neu lawn-amser.
    • E.e. gweithdai sgriptio; cyrsiau sgiliau technegol a chyrsiau gwella sgiliau busnes
  • Cyrsiau addysg gradd uwch (MA ayyb)
  • Grantiau teithio i wŷliau, cynhadleddau a marchnadoedd priodol
  • Mudiadau neu gwmnïau sy’n cynnig rhaglenni hyfforddi neu addysgiadol
  • Projects that enrich the cultural experience through TV, film, digital and audio
  • Gallwn hefyd gefnogi unigolion sy’n dechrau ar eu gyrfa gyda chostau teithio i’r gweithle

 

Beth na allwn gefnogi?

  • Costau cynhyrchu
  • Meysydd theatr, perfformio, newyddiaduraeth
  • Amser pobl er mwyn datblygu syniad, sgript, ayyb
  • Cyrsiau gradd (BA ac ati)

 

Sawl gwaith ga’i derbyn cefnogaeth ariannol gan Ymddiried?

  • Un waith mewn dwy flynedd yw’r uchafswm.
 
 

Nid oes gan Ymddiried criteria ariannol penodol wrth ystyried dy gais ond ry’n ni yn disgwyl bod arian ar gael o ffynhonnell arall hefyd i dy gefnogi. Gall hynny fod ar ffurf grant neu ysgoloriaeth, gyfraniad personol ayyb.

RHANNWCH
Twitter
LinkedIn