Gwneud Cais - Sefydliadau a Mudiadau

Yn ogystal â chefnogi unigolion, ‘dy ni’n awyddus i helpu’r sector yn ehangach drwy gefnogi cynlluniau hyfforddi ac addysg. Ry’n ni’n awyddus felly i dderbyn ceisiadau gan:

  • Mudiadau sy’n helpu datblygu sgiliau unigolion
  • Mudiadau sy’n creu cyfleoedd addysgiadol i bobl sydd eisiau gyrfa yn y cyfryngau
  • Mudiadau a Mentrau Cymunedol sy’n datblygu creadigrwydd ac yn meithrin sgiliau


Beth i’w gynnwys mewn cais?

  • Pwrpas addysgol neu gymunedol clir
  • Cyfeiriad partneriaeth gref
  • Tystiolaeth o’r angen am y prosiect/gweithgaredd
  • Cynllun prosiect a chyllideb gadarn
  • Gwybodaeth a phrofiad perthnasol y tîm
  • Egluro beth yw’r gwerth ychwanegol fydd yr yn dod i’r prosiect yn sgil creu partneriaeth gydag Ymddiried added value that a partnership with us will bring to the activity
  • Manylu ar sut y bydd ein cyfraniad ariannol yn cael ei ddefnyddio
  • Canlyniadau mesuradwy
  • Gwerth am arian
  • Sefydlogrwydd ariannol
  • Ymrwymiad i hygyrchedd, cyfleoedd cyfartal ac amrywiaeth o fewn y tîm a chyfranwyr y prosiect


Beth na allwn gefnogi?

  • Prosiectau myfyrwyr sy’n rhan o gwrs ysgol, coleg, gradd neu radd uwch
  • Cyllido neu gyfrannu at brosiect ‘byw’, e.e. cyllid ffilm, rhaglen deledu, radio, podlediad a.y.b.


Faint o arian sydd ar gael?

  • Isafswm o £1,000 ac uchafswm o £20,000
  • Ry ni’n hapus i ystyried prosiectau dros gyfnod o hyd at dair blynedd.
  • Dylid gyrru’r ceisiadau ar ebost yn unig at: post@ymddiried.cymru
RHANNWCH
Twitter
LinkedIn