Grant a roddwyd i: Miranda Shamiso
Cyfraniad Ymddiried: £1,000
Rwy’n hynod ddiolchgar i Ymddiried: Media Grants Cymru am gymorth ariannol o £1,000, a’m galluogodd i dderbyn ysgoloriaeth yn y British American Drama Academy. Rwy’n byw yng Nghaerdydd, ac roedd y cwrs amser llawn yn Llundain; hyd yn oed gydag ysgoloriaeth, ni fyddai’r cwrs wedi bod yn hygyrch i mi fel arall, gan fod costau byw yn Llundain am dri mis yn sylweddol, fel y gellid disgwyl.
Rhoddodd y cwrs gyfle i mi gymryd rhan mewn amrywiol weithdai gyda gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant, gan gynnwys:
- Joel Perez, a gyfarwyddodd ac a gyd-ysgrifennodd Villa Encanto, gwaith a gafodd ei berfformio am y tro cyntaf yng Ngŵyl Tribeca, gyda Lin-Manuel Miranda fel cynhyrchydd gweithredol.
- Anna Healey, Cydlynydd Agosatrwydd a Chyfarwyddwr Symud, y mae ei gwaith ym myd ffilm a theledu yn cynnwys Boiling Point (BBC), One Day (Netflix) a Black Dog (ffilm nodwedd gydag Athenaeum Productions).
- Francesca Mills, actores y mae ei gwaith ym myd ffilm a theledu yn cynnwys Harlots (Cyfresi 2 a 3, Hulu/ITV), The Witcher: Blood Origin (Netflix) a Zoolander 2.
Ar y cwrs, cawsom hefyd gyflwyniad i grefft ysgrifennu adolygiadau o gynyrchiadau, pwnc nad oeddwn i’n gwybod fawr ddim amdano o’r blaen.
Roedd y rhan fwyaf o’r gweithdai yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau fel adroddwr straeon. Cawsom ein hannog i greu ein gwaith ein hunain, a’n cyflwyno i dechnegau a allai helpu gyda hynny. Cefais gyfle i roi’r rhain ar waith yn ddiweddar wrth greu fy ffilm fer gyntaf, sydd bellach yn cael ei chyflwyno i wyliau ffilm.

