Gwneud Cais - Sefydliadau a Mudiadau

Yn ogystal â chefnogi unigolion, ‘dy ni’n awyddus i helpu’r sector yn ehangach drwy gefnogi cynlluniau hyfforddi ac addysg. Ry’n ni’n awyddus felly i dderbyn ceisiadau gan:

  • Mudiadau sy’n helpu datblygu sgiliau unigolion
  • Mudiadau sy’n creu cyfleoedd addysgiadol i bobl sydd eisiau gyrfa yn y cyfryngau
  • Mudiadau a Mentrau Cymunedol sy’n datblygu creadigrwydd ac yn meithrin sgiliau ar gyfer gyrfaoedd yn y diwydiannau creadigol
  • Cyrff sydd wedi sicrhau arian cyfatebol o ffynonellau eraill
 

 

Beth i’w gynnwys mewn cais?

  • Pwrpas addysgol neu gymunedol clir
  • Cyfeiriad partneriaeth gref
  • Tystiolaeth o’r angen am y prosiect/gweithgaredd
  • Cynllun prosiect a chyllideb gadarn
  • Gwybodaeth a phrofiad perthnasol y tîm
  • Egluro beth yw’r gwerth ychwanegol fydd yr yn dod i’r prosiect yn sgil creu partneriaeth gydag Ymddiried
  • Manylu ar sut y bydd ein cyfraniad ariannol yn cael ei ddefnyddio
  • Canlyniadau mesuradwy
  • Gwerth am arian
  • Sefydlogrwydd ariannol
  • Ymrwymiad i hygyrchedd, cyfleoedd cyfartal ac amrywiaeth o fewn y tîm a chyfranwyr y prosiect
  • Natur hysbysrwydd, cyfranogaeth ac allbynnau yn yr iaith Gymraeg
 

 

Beth na allwn gefnogi?

  • Prosiectau myfyrwyr sy’n rhan o gwrs ysgol, coleg, gradd neu radd uwch
  • Prosiectau i’r rhai dan 16 oed
  • Cyllido neu gyfrannu at brosiect ‘byw’, e.e. cyllid ffilm, rhaglen deledu, radio, podlediad a.y.b.
  • Ceisiadau sy’n gofyn i ni gyllido mwy na 40% o gostau’r prosiect
  • Ceisiadau gan sefydliadau tu allan i Gymru
  • Prosiectau tu hwnt i ddwy gyfres o gymorth ariannol nad ydynt wedi cael adolygiad cynhwysfawr
 

 

Faint o arian sydd ar gael?

  • Isafswm o £1,000 ac uchafswm o £20,000
  • Ry ni’n hapus i ystyried prosiectau dros gyfnod o hyd at dair blynedd.
  • Does dim ffurflen gais i sefydliadau. Dylid gyrru’r cais ar ebost yn unig at: post@ymddiried.cymru
RHANNWCH
Twitter
LinkedIn