Search
Close this search box.
Ymddiried Media Grants Cymru logo
Culture Change Conference presentation on stage

Cynhadledd Newid Diwylliant, Mawrth 28-29, 2023

Yn gynharach yr wythnos hon, mynychodd cadeirydd, Siwan Jobbins Cynhadledd Newid Diwylliant Media Cymru yn yr Atrium yng Nghaerdydd.

Roedd y gynhadledd yn canolbwyntio ar lesiant ac arferion gwaith gwell, tecach a gwyrddach o fewn y sector sgrin.

Roedd un o'r sesiynau yn ymwneud â'r sgiliau a'r cyfleoedd hyfforddi sydd ar gael yng Nghymru.

Os wyt ti’n chwilio am gyfleoedd hyfforddi, dyma'r cwmniau gall dy helpu:

Screenskills, Sgil Cymru, BECTU | Cult Cymru, Cymru Greadigol | Llywodraeth Cymru, Ffilm Cymru, Screen Alliance Wales, TAC, NFTS Cymru Wales. 

Un cynllun cyffrous iawn sydd i'w lansio yn yr wythnosau nesaf yw Cronfa Datblygu Gweithwyr Llawrydd Media Cymru a fydd yn talu am golled enillion hyd at £1,500 i'r rhai sy'n mynychu cwrs. Un arall yw Rhaglen Sgiliau Hyblyg (FSP) Llywodraeth Cymru a fydd yn cyfrannu cyllid o 50% i gost cyrsiau hyfforddi a brynir yn breifat.

Cadwad dy lygaid ar agor am ragor o wybodaeth

Gallwn ni yn Ymddiried hefyd dy helpu i ariannu cyfleoedd hyfforddi, felly paid â bod yn swil. Sgwrsia gyda ni er mwyn cael gweld os allwn ni helpu post@ymddiried.cymru

RHANNWCH
Twitter
LinkedIn