Search
Close this search box.
Ymddiried Media Grants Cymru logo

Cysgodi ar ôl-gynhyrchu'r ffilm 'The Last Omen'

Mathew David

Yn fuan ar ôl graddio o’r Coleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd, chwaraeais y brif ran yn y ffilm fer gwobrau Iris, Burger a enillodd Wobr Rheithgor Arbennig yng Ngŵyl Ffilmiau Sundance 2014. Ers hynny rwyf wedi gweithio y tu ôl i’r camera ar dros 9 o ffilmiau byr LGBTQ+ gan gynnwys ffilm fer Arkasha Stevensons, Daisy a D. 

Mae Arkasha Stevenson bellach yn y cyfnod ôl-gynhyrchu ar ffilm $50 miliwn o’r enw The First Omen (prequel The Omen) a chynigiodd i mi ddod draw i LA er mwyn cysgodi ar y broses ôl-gynhyrchu ym mis Gorffennaf 2023.

Diolch i grant Ymddiried roeddwn yn gallu ariannu teithio i LA ar gyfer y cyfle gwych yma.

Dechreuodd fy nghyfnod cysgodi ar yr un diwrnod y dechreuodd streiciau SAG. Er gwaethaf y cyfarfodydd brys yn ymwneud â’r streic, llwyddais i ddysgu am wahanol agweddau ar y diwydiant o ariannu i ‘tax breaks’ treth i ddeall system ‘film ratings’ America a'r cyfyngiadau y mae'n eu gosod ar gynnwys penodol. Cefais hefyd fewnwelediad i olygu ar raddfa fawr. Derbyniais gyfleodd mentora gan Arkasha, a chynigiodd adborth amhrisiadwy ar ôl adolygu fy nogfenau pitcho a sgriptiau. Buom yn trafod cydweithrediadau posibl yn y dyfodol ac yn archwilio opsiynau fisa i weithio yn America.

Yn ystod fy amser yn LA, mynychais ŵyl ffilm Outfest, ble gymerais ran mewn sawl gweithgaredd hynod ddefnyddiol: 

Cefais sawl cyfarfod gyda Andrew Murphy, cyd-bennaeth gŵyl ffilm LGBTQ+ Inside Out Toronto. 

Wnes i gyfarfod â Christina Ra, is-lywydd cynhyrchu yn MRC, i gael mewnwelediad i benderfyniadau ariannu a'i meini prawf ar gyfer dewis gwneuthurwyr ffilm. Darparodd adborth hefyd ar fy nogfennau ‘pitch’. 

Cymerais ran mewn gweithdai gwneuthurwyr ffilm a oedd yn canolbwyntio ar gynrychiolaeth Queer mewn ffilm a gemau. 

Mynychais dangosiadau ffilmiau a chymryd rhan mewn sesiynau holi ac ateb gyda gwneuthurwyr ffilm. 

Cefais sgwrs gyda'r rhaglennydd ffilm Mike Doherty am ddewis ffilm, a'r hyn sy'n gwneud ffilm ryngwladol dda.
Discussed with film programmer Mike Doherty about film selection, and what makes a good international film. 

Rwy’n ddiolchgar tu hwnt i Ymddirioed am y cymorth ariannol cefais, gan ei fod wedi rhoi cyfle heb ei ail i mi ymchwilio i’r diwydiant a chreu rhwydwaith gwerthfawr o gysylltiadau. Mae'r wybodaeth a'r profiadau a gefais yn ystod y cyfnod hwn wedi bod heb eu hail. 

RHANNWCH
Twitter
LinkedIn