Search
Close this search box.
Ymddiried Media Grants Cymru logo

Eisiau bod yn Ymddiriedolwr?

Profiad ym maes y cyfryngau yng Nghymru?

Hoffet ti fod yn Ymddiriedolwr?

Hoffai Ymddiried - Media Grants Cymru glywed wrthot ti. 

‘Rydym yn awyddus i groesawu ymddiriedolwyr newydd i ddyfarnu grantiau i unigolion ac arian partneriaethau i amrywiol asiantaethau addysgiadol a diwylliannol. Rydym yn chwilio am unigolion profiadol a brwdfrydig; ac yn arbennig rhai gyda chefnir yn y maesydd hyfforddiant a datblygiad proffesiynol, y gyfraith a chyllid.

Mae’r ymddiriedolwyr yn cwrdd tair gwaith y flwyddyn. Mae’r gwaith yn ddi - dâl.

Ry’ ni’n cwrdd yng Nghaerdydd ac ar lein. Rydym yn cynnig treuliau teithio i ymddiriedolwyr a fydd yn teithio o du allan i Gaerdydd.

Os oes gen ti ddiddordeb, gyrra amlinelliad erbyn Mawrth 14 2004 gan nodi dy brofiad a dy diddordeb at: post@ymddiried.cymru

Am fwy o wybodaeth am Ymddiried a chyfrifoldebau’r ymddiriedolwyr, cysyllta gyda’r Cadeirydd, Siwan Jobbins : siwan@twtproductions.cymru

RHANNWCH
Twitter
LinkedIn