Craig Romans

Craig Romans: Cwrs ysgrifennu i’r sgrin NFTS ‘Finding Your Voice’

Grant a roddwyd i: Craig Romans

Cyfraniad Ymddiried: £2,000 tuag at ffi’r cwrs

Cynhaliwyd cwrs chwe mis NFTS Finding Your Voice ar-lein ac wyneb yn wyneb gan y sgriptiwr Paul Fraser, gyda gweithdai wyneb yn wyneb ar ddydd Sadwrn yn cael eu cynnal yn BBC Cymru yng Nghaerdydd.

Mae Finding Your Voice yn gwrs ysgrifennu sgrin sy’n arwain cyfranogwyr drwy’r broses ysgrifennu sgriptiau gyfan: o greu crynodebau a chyflwyniadau syniadau (pitches), i ysgrifennu a golygu sgriptiau, yn ogystal â gweithio gyda chyd-fyfyrwyr i feirniadu a datblygu syniadau ar y cyd.

Roedd fy mhrofiad blaenorol ym maes ysgrifennu ffuglen, ac roedd ysgrifennu sgrin yn ymddangos fel her enfawr o ran llwyddo i gael troed yn y drws yn y diwydiant, ond mae Finding Your Voice wedi’i gynllunio i helpu gyda’r broses honno: nid yn unig i ennill profiad o ysgrifennu sgriptiau, ond i weithio yn yr un ffordd ag y mae’r diwydiant teledu a ffilm yn gweithio. Y gobaith yw y bydd cyfranogwyr yn gorffen y cwrs gyda sgriptiau sampl o safon broffesiynol, y gellir eu defnyddio fel math o ‘garden alw’ i ddenu sylw yn y diwydiant ffilm a theledu.

Roedd y cwrs yn brofiad gwych sydd wedi fy helpu i ddatblygu’n aruthrol fel awdur. Wnes i gwblhau’r cwrs gyda sgript ar gyfer ffilm fer, sgript ar gyfer pennod beilot teledu a dogfen gynllunio cyfres (series bible). Yn ogystal, rwyf wedi ennill profiad o gyflwyno syniadau i gyfarwyddwyr ac asiantau, a phrofiad o weithio ar y cyd mewn amgylchedd tebyg i ystafell ysgrifennu broffesiynol.

Ni allaf ddiolch digon i Ymddiried: Media Grants Cymru am eu cyfraniad tuag at ffioedd y cwrs, a wnaeth ei gwneud yn bosibl i mi fynychu’r cwrs.

RHANNWCH
Twitter
LinkedIn