Branwen Davies: Cwrs Datblygu Awduron Newydd, Rondo Media

Grant a roddwyd i: Branwen Davies

Cyfraniad Ymddiried: £250

Mi roeddwn yn ddigon ffodus yng ngwanwyn 2025 i dderbyn lle ar Gwrs Datblygu Awduron Newydd Rondo Media, a wedyn derbyn cymorth ariannol gwerth £250 gan Ymddiried.

Doedd dim strwythur penodol wedi ei amlinellu ar gyfer y cwrs ar y dechrau, ac yn y pen draw roedd yn gyfuniad o sesiynau wyneb yn wyneb yn Llangefni a sesiynau ar-lein, a hynny yn edrych ar wahanol agweddau o lunio drama, o ysgrifennu, strwythuro, ariannu a materion cyfreithiol.

Roedd y sesiwn cyntaf yn sesiwn pum diwrnod gyda’r awdur John Vorhaus yn Llangefni, oedd yn gwrs dwys ac ysbrydoledig am y broses o ysgrifennu drama a chomedi. Wedi hyn bu nifer o sesiynau ar-lein, gan gynnwys gyda Ciron Gruffydd, Ynyr Williams a Sion Clwyd, ac ar ddiwedd y cyfnod bu cwrs wyneb yn wyneb deuddydd gyda Jeremy Davies ac eraill yn ymuno ar-lein.

RHANNWCH
Twitter
LinkedIn