Cardiff Animation Festival

Gŵyl Animeiddio Caerdydd

Cyfraniad Ymddiried: £30,000

Diolch i gefnogaeth hael Ymddiried o £30,000 ar draws 2024 a 2026, mae Gŵyl Animeiddio Caerdydd wedi darparu dwy flynedd o ddatblygiad proffesiynol wedi’i deilwra ar gyfer talent creadigol yng Nghymru, ochr yn ochr â rhaglen gyhoeddus helaeth o ddosbarthiadau meistr diwydiant a chyfleoedd dysgu.

Ar draws y ddwy flynedd, mae’r rhaglen wedi:

  • Cefnogi 10 o bobl greadigol trwy ‘placements’ pwrpasol, mentora un-i-un, hyfforddiant ymarferol a phrofiad diwydiant;
  • Cyflwyno dros 60 o sesiynau mentora unigol, ochr yn ochr â gweithdai CV, cyflwyniadau proffesiynol a phrosiectau cydweithredol;
  • Cysylltu’r 10 cyfranogwr, pob un ohonynt wedi nodi eu bod yn niwroamrywiol neu’n anabl, â gweithwyr proffesiynol sefydledig yn y diwydiant sy’n gweithio yn eu meysydd diddordeb;
  • Cyflwyno 20 o ddosbarthiadau meistr cyhoeddus, sgyrsiau a sesiynau diwydiant, gan gyrraedd presenoldeb 1,302 o bobl;
  • Cefnogi cyfranogwyr i symud ymlaen i gyflogaeth, addysg bellach, gwirfoddoli a sefydlu eu sefydliadau creadigol eu hunain.

Mae’r rhaglen wedi bod yn arbennig o lwyddiannus wrth gefnogi pobl ifanc sy’n wynebu rhwystrau ychwanegol i ymuno â’r diwydiannau creadigol, gan eu helpu i ddatblygu hyder, rhwydweithiau proffesiynol a phrofiad ymarferol mewn amgylchedd hygyrch a chefnogol.

RHANNWCH
Twitter
LinkedIn