Search
Close this search box.
Ymddiried Media Grants Cymru logo

Troed yn y Drws

Mae Ffilm Cymru Wales yn credu bod angen i ddiwydiant ffilm gref a chynaliadwy yng Nghymru fod yn agored i bawb, waeth beth fo cefndir, sefyllfa ariannol neu brofiad.

Rydym yn gweithio gyda phartneriaid, gan gynnwys Cymdeithasau Tai, awdurdodau lleol a chanolfannau gwaith, i gysylltu pobl gyda rhwydweithiau, gwybodaeth a chyfleoedd gwaith fel y gallant gael eu Troed yn y Drws. Ry’ ni’n targedu pobl fyddai’n hoffi gweithio yn y diwydiant ond sy’n credu nad yw’n bosib neu nad oes cyfle ar gael iddyn nhw wneud hynny.

I annog pobl, rydym yn creu cyfleoedd lleol i bobl ddysgu sut mae trosglwyddo sgiliau gwerthfawr megis gwaith coed, gwallt a cholur, a gwisgoedd i sefyllfa set ar gynyrchiadau ffilm a theledu yng Nghymru. Rydym hefyd yn cynnig cymorth bwrsariaeth ar gyfer pethau fel trafnidiaeth a gofal plant, gan wneud Troed yn y Drws yn gyfle a all weithio i bawb beth bynnag fo’u hamgylchiadau.

Sefydlwyd rhaglen Bwrsariaeth Ymddiried yn 2018-19 gyda’r nod o ddarparu 120 o fwr-sariaethau dros gyfnod o 3 blynedd 2019-2021 i gefnogi unigolion i ddatblygu a symud ymlaen i’r sector sgrin yng Nghymru Roedd y rhaglen fwrsariaeth hon yn flaengar ac arloe-sol o ran cefnogi unigolion i mewn i'r diwydiant a oedd â llai o gyfle i gynnal gyrfa yn y sector.

Cyfanswm y dyraniad cyllidebol oedd £45,000 dros 3 blynedd. Oherwydd yr effaith a gafodd Cofid ar hyfforddiant a chyfleoedd, bu rhywfaint o danwariant.

I lawer o’n hyfforddedigion, roedd bwrsariaethau’n cynnig cefnogaeth i bobl dderbyn cyfnodau o brofiad gwaith yn y Diwydiannau Creadigol ar gynyrchiadau fel Un Bore Mercher a Dream Horse. Derbyniodd 33 o unigolion brofiad ar y ddau gynhyrchiad mawr yma. Aeth sawl un o’n hyfforddedigion ymlaen at brosiectau eraill gyda’n cymorth ariannol ni, gan gynnwys gyda’r cwmni rhaglenni dogfen Truth Department, Canolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd, The Tuckers (cyfres y BBC), Wild Creations, Brave New World (Dragon Studios).

Wnaeth y cyllid hefyd gefnogi Teithio (Milltiroedd a Chludiant Cyhoeddus), Llety, Esgidiau a Dillad ar gyfer lleoliadau, gwersi gyrru a chit ac offer arbenigol yn ogystal â chyrsiau hyf-forddi i gefnogi unigolion i ennill sgiliau a datblygiad pellach yn eu maes.

Cymer olwg ar y ffilm yma i glywed beth ry’n ni’n ei wneud a sut wnaeth ein hyfforddedi-gion elwa o’r profiad o weithio ar Dream Horse:

RHANNWCH
Twitter
LinkedIn