Search
Close this search box.
Ymddiried Media Grants Cymru logo
Llun o Verity Campbell yn grdddio

MLlen Ysgrifennu Drama ac Ysgrifennu Sgrin

Verity Campbell

Yn 2020 cefais gynnig diamod i astudio MLitt Ysgrifennu Drama ac Ysgrifennu Sgrin ym Mhrifysgol St Andrews. Roedd yn un o eiliadau hapusaf fy mywyd ac mewn symudiad annodweddiadol o ddoeth, penderfynais ohirio fy lle tan fis Medi 2021 yn y gobaith y byddwn yn gallu profi bywyd St Andrews yn ei gyfanrwydd! 

Nid gor-ddweud yw nodi bod y cwrs yma wedi fy helpu i ddatblygu i fod yr awdur yr wyf i heddiw. Roedd yn her gwylio fy ngwaith yn cael ei ddyrannu wythnos ar ôl wythnos, ond mae'r sgiliau dwi wedi'u dysgu yn amhrisiadwy. Rwy’n gwybod sut i drosi straeon ysgrifenedig yn straeon gweledol a chlywedol cryf. Gallaf hefyd ysgrifennu pwyntiau plot yn fy nghwsg!

Yn anffodus, daeth pwynt pan oedd yn teimlo fy mod yn gweithio’n galed i aros yn llonydd. Nid yw St Andrews yn dref rhad o bell ffordd ac mae'r prisiau rhent yno'n cystadlu â Llundain ei hun. Ar un adeg, roeddwn yn gweithio bron i 35 awr yr wythnos ochr yn ochr ag astudio ar gyfer fy ngradd meistr dim ond i dalu am fwyd. Dyna lle daeth Ymddiried i'r adwy. 

Rhoddodd ei grant hael y tu hwnt o £2,500 sicrwydd i mi o dô uwch fy mhen, bwyd ar fy mhlât a’r offer priodol i astudio ac ysgrifennu ag ef. Caniataodd i mi ganolbwyntio’n llwyr ar fy ysgrifennu – rhywbeth nad oedd yn rhaid i’ nifer o’m cyd-fyfyrwyr feddwl amdano – a’m rhoi ar yr un sefyllfa â phawb arall. 

Ym mis Tachwedd 2022, graddiais o Brifysgol St Andrews gyda MLitt Ysgrifennu Drama ac Ysgrifennu Sgrin, gyda Rhagoriaeth - yr unig un o fy nosbarth i wneud hynny. Cefais y fraint o gael fy nghynnwys ar Restr Rhagoriaeth Academaidd y Deon hefyd. 

Rwy’n hynod ddiolchgar bod Ymddiried wedi gweld artist gwerth ei gefnogi ynof.

RHANNWCH
Twitter
LinkedIn