Search
Close this search box.
Ymddiried Media Grants Cymru logo

Filmonomics

Gyda chefnogaeth o £576 gan Ymddiried: Media Grants Cymru, cefais y fraint o ymuno â Charfan Filmonomics 23/24, gyda 17 o wneuthurwyr ffilm eraill. Darparodd y rhaglen hon, a gynhalwyd dros gyfnod o pedwar mis rhwng Rhagfyr 12, 2023 a Mawrth 2024, gyfuniad cynhwysfawr o hyfforddiant busnes. Y nod oedd meithrin sgiliau creadigol a masnachol, wedi’i deilwra’n arbennig ar gyfer cyfarwyddwyr, awduron a chynhyrchwyr ffilmiau ymylol yn y DU sydd ar fin neu neu newydd ryddhau eu ffilm gyntaf.

Drwy gydol y rhaglen, a oedd yn cynnwys paneli diwydiant, byrddau crwn, hyfforddiant grŵp, a sesiynau rhwydweithio, canolbwyntiais ar fireinio fy nghais a’m cynnig ar gyfer ffilmiau nodwedd, deall deinameg y farchnad, archwilio cynaliadwyedd amgylcheddol mewn cynhyrchu, dadansoddi ‘trends’ gwerthiant tocynnau a threiddio i mewn i strategaethau dosbarthu. Roedd y mewnwelediadau ymarferol hyn yn amhrisiadwy, gan roi dealltwriaeth ddyfnach i mi o'r diwydiant a darparu strategaethau ar gyfer gweithio tuag at fy film nodwedd gyntaf. 

Un o uchafbwyntiau’r rhaglen oedd y cyfle i ryngweithio ag ystod amrywiol o ariannwyr a dosbarthwyr, ochr yn ochr â chymryd rhan mewn sesiynau hyfforddi grŵp a oedd yn mynd i’r afael â rhwystrau systemig o fewn datblygu ffilmiau nodwedd. Gwnaeth y cyfleodd rhyngweithio hyn ehangu fy rhwydwaith o fewn y diwydiant ac hefyd meithrin cymuned gefnogol o gyfoedion yr wyf yn parhau i gadw mewn cysylltiad â nhw.

I gael rhagor o fanylion am y fenter Filmonomics https://www.screendaily.com/news/reclaim-the-frame-unveils-filmonomics-cohort-for-2023-24-exclusive/5188610.article

RHANNWCH
Twitter
LinkedIn