Grant a roddwyd i: Fiorella Roberts
Cyfraniad Ymddiried: £1,000
Cefais y fraint o dderbyn grant o £1,000 gan Ymddiried Media Grants Cymru. Defnyddiais yr arian i dalu am le ar gwrs yn canolbwyntio ar wallt gweadog (textured hair), gan gynnwys cyflwyniad i grefft y barbwr, dan arweiniad yr artist Tiffany Pierre, enillydd gwobr BAFTA. Gallaf ddweud yn ddiffuant ei fod yn fuddsoddiad gwerthfawr iawn. Fel menyw o gefndir brodorol Mecsicanaidd, mae cynhwysoldeb wrth wraidd y ffordd rwy’n ymdrin â fy ngwaith. Pan hyfforddais fel artist colur, nid oedd dysgu sut i drin a gofalu am wallt gweadog yn rhan o’r cwricwlwm; ac mae gallu gwasanaethu cleientiaid o bob cefndir, waeth beth yw gwead eu gwallt, yn rhywbeth sy’n bwysig iawn i mi. Gallaf ddweud yn onest fod y cwrs hwn wedi fy nghymryd cam sylweddol yn nes at y nod hwnnw.
Roedd cynnwys y cwrs wedi’i strwythuro’n dda a’i lunio’n feddylgar. Roedd yn ymdrin â sylfeini allweddol gwallt gweadog, gan gynnwys dysgu sut i adnabod patrymau cyrlio, nodweddion unigryw gwallt Affro, a’r technegau penodol sydd eu hangen i weithio gydag ef yn effeithiol ac yn ddiogel.
Archwiliodd cwrs Tiffany hefyd bwysigrwydd diwylliannol gwallt trwy gydol hanes. Ychwanegodd hyn ddimensiwn ystyrlon i’r profiad dysgu, gan ddyfnhau fy ngwerthfawrogiad o arwyddocâd y gwaith, y tu hwnt i’r sgiliau technegol yn unig. O ran sgiliau ymarferol, darparodd y cwrs wybodaeth a sgiliau y gallaf eu defnyddio yn fy ngwaith.
Fel person sydd wrthi’n hyfforddi ym maes gwallt a cholur yn y diwydiant ffilm a theledu, mae’r cwrs hwn hefyd o bwysigrwydd mawr i’m gyrfa. Mae’r diwydiant yn gweithio gydag ystod eang ac amrywiol o dalent, ac mae gallu trin pob math o wallt yn hyderus yn hanfodol i unrhyw un sy’n dymuno symud ymlaen yn eu gwaith ar y set.