Search
Close this search box.
Ymddiried Media Grants Cymru logo

Gŵyl y Dyn Gwyrdd 2022

Gan weithio mewn partneriaeth â Gŵyl y Dyn Gwyrdd a Phrifysgol De Cymru, mae rhaglen Hyfforddiant Cyfryngau Ymddiriedolaeth y Dyn Gwyrdd wedi’i gwreiddio mewn datblygu sgiliau a chodi dyheadau pobl ifanc sy’n awyddus i ddilyn gyrfa yn y diwydiannau creadigol. Gan fwydo i mewn i’w hastudiaethau academaidd, mae’r rhaglen yn cynnig profiad gwaith ymarferol 7 diwrnod dwys yn yr Ŵyl, ble maen nhw’n gyfrifol am waith camera a golygu ffrwd byw’r llwyfan ‘Far Out’, sydd â chapasiti ar gyfer 6,000 o bobl. Maen nhw hefyd yn gwneud ffilm fer mewn ymateb i friff cleient. Mae premiere y ffilm yn digwydd ym mhabell Sinema’r ŵyl fel rhan o’i rhaglen gyhoeddus. Mae myfyrwyr yn cael eu mentora gan weithwyr proffesiynol gorau’r diwydiant adloniant sy’n gweithio ledled y byd ar deithiau mawr ac mewn lleoliadau enwog. 

Mae’n gyfle unigryw ar gyfer twf a datblygiad – mae’r prosiect yn mireinio sgiliau myfyrwyr, yn ehangu eu gorwelion proffesiynol ac yn datblygu eu hyder i weithio yn y diwydiant. Mae cyfranogwyr yn gadael gydag ychwanegiad da i’w CV a gan wybod eu bod wedi ehangu eu sgiliau. Mae’r profiad unigryw yma’n rhoi’r cyfle iddyn nhw ddefnyddiol eu sgiliau mewn amgylchedd gwaith cyflym ac iddyn nhw ehangu eu rhwydweithiau proffesiynol. Mae’n gyfle unwaith-mewn-oes i fod yn agos a phersonol gyda rhai o’r bandiau mwyaf blaenllaw o bob rhan o’r byd ac, i lawer, mae’n cynnig y cyfle i fynychu gŵyl gerddoriaeth am y tro cyntaf.

Mae cefnogaeth Ymddiried dros y 4 blynedd diwethaf wedi bod yn allweddol, yn enwedig wrth i ni wynebu’r heriau digynsail a ddaeth yn sgil pandemig COVID-19. Llwyddom i gadw’r rhaglen yn fyw a chefnogwyd 31 o fyfyrwyr.

RHANNWCH
Twitter
LinkedIn