Search
Close this search box.
Ymddiried Media Grants Cymru logo

Cwrs Houdini, Escape Studios

Oherwydd pandemig Covid, cynhaliwyd y cwrs hwn ar-lein yn hytrach nag o ystafell ddosbarth Llundain. Ymunais â’r 4 myfyriwr arall bob nos Lun a nos Fercher rhwng 7pm a 10pm dros yr 20 wythnos.

Roeddwn wedi defnyddio Houdini o’r blaen ond heb unrhyw hyfforddiant ffurfiol.

Fe ddechreuon ni o hanfodion cymhwyso. Cyflwyniad i ryngwyneb a modelu syml trwy Houdini yn ystod y gwersi cyntaf. Symudon ni wedyn i iaith raglennu Houdini, VEH.

Yn Houdini gellir creu cynnwys drwy nodau a’i gysylltu â’i gilydd yn graffiau nodau felly mae’n haws i’r defnyddiwr ddychmygu llif y data o’i gymharu â meddalwedd arall.

Mae gan y tiwtor, Mark Spevick dros 20 mlynedd o wybodaeth am ddefnyddio Houdini ac mae wedi gweithio ar ffilmiau fel Casino Royale, Angels a Demons a 2012. Roedd ei fewnwelediad a’i brofiad bywyd go iawn o fudd mawr i’r myfyrwyr.

Dangoswyd hefyd sut i greu Asedau Digidol Houdini (HDA) sy’n gallu modiwleiddio creu cynnwys. Yna gall yr asedau HDA hyn gael eu defnyddio gyda pheiriannau gemau fel Unreal Engine.

Weithion ni ar dechnegau cysgod gwead cyn mynd ati i ddysgu am rendro drwy Mantra a rendr newydd Karma drwy Solaris.

Cawsom nosweithiau hefyd lle’r oeddem yn canolbwyntio ar brosiectau unigol ac oherwydd niferoedd isel y cwrs, roedd hyn yn gyfle am 1- wrth-1 gyda’r tiwtor. Canolbwyntiais ar adeiladau gweithdrefnol ac ail-greu stadiwm rygbi.

Byddaf yn parhau i weithio ar yr enghreifftiau hyn ar gyfer fy ‘showreel’. Mae modd cael mynediad i recordiadau fideo a gwasanaeth ‘Discord’ am 12 mis ar ôl cwblhau’r cwrs, fydd yn ddefnyddiol iawn imi.

Fydden i’n argymell y cwrs i unrhyw un sydd angen astudio Houdini o bell ac yn methu mynychu cyrsiau eraill oherwydd lleoliad a phatrwm gwaith. Nid oedd y cwrs yn ymdrin â phob agwedd ar Houdini ond roedd yn bosibl gofyn am esboniad cyflym o unrhyw agweddau nad oedd wedi eu cynnwys.

https://www.pearsoncollegelondon.ac.uk/escape-studios.html
RHANNWCH
Twitter
LinkedIn